Symud at y prif gynnwys

Gwasanaeth Ysgrifennu Ewyllys yn Rhad ac am Ddim

Gwneud Ewyllys yw’r unig ffordd o sicrhau y bydd eich dymuniadau’n cael eu cyflawni. Mae’n rhywbeth rydym ni’n ei esgeuluso yn aml, ond nid oes angen iddo fod yn anodd nac yn ddrud. Rydym ni wedi llunio partneriaeth â dau wasanaeth i helpu ein cefnogwyr i wneud Ewyllys syml, am ddim.

Dysgwch ragor isod i weld pa opsiwn ysgrifennu Ewyllys sydd orau i chi.

Gallwch ddewis gwneud eich Ewyllys:

  • Ar-lein
  • Dros y ffôn
  • Wyneb yn wyneb

Sylwch, mae Ewyllysiau am ddim yn gyfyngedig ac maent ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.

Ewyllysiau ar-lein

Rydym ni wedi llunio partneriaeth â Octopus Legacy i gynnig cyfle i chi wneud eich Ewyllys ar-lein am ddim, gan olygu eich bod yn gallu gwneud eich Ewyllys yn ôl eich pwysau eich hun. Mae Octopus Legacy yn darparu proses ar-lein syml er mwyn i ysgrifennu eich Ewyllys fod yn gyflym ac yn hawdd. Dim ond 15 munud mae’n ei gymryd i gwblhau eich Ewyllys ar-lein, cyn i arbenigwr cyfreithiol ei wirio. Yna, byddant yn ei anfon atoch i’w argraffu, ynghyd â chyfarwyddiadau ar sut i’w lofnodi gyda thystion, fel y bydd yn rhwymo’n gyfreithiol.

Yn ogystal, mae Octopus Legacy yn cynnig apwyntiadau dros y ffôn ac wyneb yn wyneb i bobl y byddai’n well ganddynt siarad â chyfreithiwr. I ddysgu rhagor a threfnu apwyntiad, ffoniwch y tîm ar 0800 773 4014 a dyfynnu CRWFREE.

Ysgrifennu Ewyllys rhad ac am ddim wyneb i wyneb

Yn ogystal, rydym ni a’r Rhwydwaith Ewyllysiau Cenedlaethol Am Ddim wedi dod at ein gilydd fel y gallwch wneud neu ddiweddaru Ewyllys syml, am ddim, trwy gyfreithiwr lleol. Cysylltwch â ni i roi gwybod yr hoffech chi ddefnyddio’r Rhwydwaith Ewyllysiau Cenedlaethol Am Ddim. Yna, byddwn yn eich cyfeirio at y Rhwydwaith a byddant yn anfon pecyn yn uniongyrchol atoch chi, yn cynnwys rhestr o’ch cyfreithwyr lleol sy’n cymryd rhan a ffurflen. Cysylltwch â’r cyfreithiwr o’ch dewis i drefnu apwyntiad, ewch â’ch ffurflen orffenedig gyda chi a chewch eich Ewyllys syml wedi’i hysgrifennu am ddim.