Symud at y prif gynnwys

Cymryd Rhan

Gadael rhodd yn eich Ewyllys

Erbyn 2030, amcangyfrifir y bydd canser ar 230,000 o bobl ar draws Cymru. Ni fu ein hymchwil erioed mor bwysig. Gall rhoddion mewn ewyllysiau helpu i greu dyfodol gwell i bob un sydd â phob canser ar draws Cymru. Ar ôl gofalu am eich anwyliaid, ystyriwch adael gwaddol i helpu trawsnewid y dyfodol i gleifion yfory.

Mae’r Athro Alan Parker, Prifysgol Caerdydd, yn ymchwilio i ganser y pancreas – canser sydd â phrognosis gwael iawn, yn nodweddiadol – a chreu ‘firysau craff’ i ddinistrio celloedd canser a helpu’r system imiwnedd i ‘weld’ tiwmorau.

"Collais fy mam i ganser pan oedd hi’n ddim ond 50 oed ac roeddwn i’n 17 oed. Does dim amheuaeth nad oedd hyn yn allweddol wrth ddiffinio fy uchelgeisiau gyrfaol. Cafodd ei diagnosis cychwynnol o ganser y fron 10 mlynedd ynghynt, felly heb y meddyginiaethau hynny a ddatblygwyd ar y pryd, fyddai hi ddim wedi gweld ei phlant yn tyfu i fyny. Rwy’n ddiolchgar iawn bod y cyffuriau wedi rhoi mwy o amser i mi ddod i’w hadnabod hi. Ers hynny, rwy’ bob amser wedi ceisio chwarae fy rhan a, gobeithio, rhyw ddiwrnod, gallai’r hyn rydyn ni’n ei ddatblygu helpu i gadw anwyliaid gyda’i gilydd am amser hirach."

"Mae’n golygu cymaint i fi a’m tîm fod pobl yn ddigon caredig i adael rhodd yn eu Hewyllys i Ymchwil Canser Cymru. Bydd rhoddion fel y rhain yn gwneud gwahaniaeth enfawr wrth helpu mwy o bobl i oroesi canser."