Syniadau ac Ysbrydoliaeth
Ydych chi am godi arian i ni, ond ddim yn siŵr beth i’w wneud? Rydym ni yma i’ch cefnogi chi. P’un a ydych chi’n bwriadu trefnu digwyddiad yn eich cymuned, rhywbeth llai gyda ffrindiau a theulu neu hyd yn oed codi arian yn y gwaith, mae angen mymryn o ysbrydoliaeth ar bawb, weithiau. Ac mae gennym ddigon o syniadau i chi ddechrau arni!
Dyma ein prif syniadau ar gyfer codi arian i danio ychydig o ysbrydoliaeth:
- Mae partïon gardd neu farbeciws yn yr haf yn ffordd wych o ddod â ffrindiau a theulu ynghyd i gael tipyn o hwyl. Codwch ffi am fynediad, trefnwch gemau ac ewch amdani!
- Mae nosweithiau cwis yn ddulliau clasurol o godi arian. P’un a fyddwch chi’n ei gynnal yn eich tafarn leol neu dros y we o’ch cartref, heb os, bydd hwyl i’w gael wrth godi arian!
- Gallwch gynnal raffl, swîp ac arwerthiant yn y swyddfa neu fel rhan o ddigwyddiad mwy, fel cinio mawreddog. Gall gofyn i fusnesau a mudiadau lleol am wobrau helpu i gadw costau yn isel a chodi mwy o arian
- Gall heriau rhithwir, lle byddwch chi’n cerdded, yn rhedeg neu’n beicio’ch ffordd i bellter penodol fod yn ffordd wych o godi arian. Dewiswch ddyddiad, pennwch eich pellter a gofynnwch am nawdd i roi hwb i’ch taith
- Os nad yw heriau corfforol at eich dant chi, beth am roi cynnig ar fath gwahanol o her? Ewch ati i chwarae gemau am 24 awr a gwahodd eich ffrindiau i ymuno â chi, gan ofyn am roddion wrth fynd yn eich blaen a gwylio’r cyfanswm yn codi!
- Mae boreau coffi neu de prynhawn yn ffyrdd o godi arian sydd wedi hen ennill eu plwyf. Mae pawb wrth eu bodd gyda chacen, ond nid oes rhaid i chi gadw at bethau melys, mae eitemau sawrus yr un mor boblogaidd.
Beth bynnag y byddwch chi’n penderfynu ei wneud, byddwch chi’n helpu i uno Cymru yn erbyn canser trwy ymchwil o’r radd flaenaf. Mae ein holl wariant ar ymchwil canser yn cael ei wario yma i ariannu ymchwil hanfodol yng Nghymru. Diolch!