Cymryd Rhan
Codi arian eich hun
Bydd un o bob dau ohonom ni’n cael canser, felly mae’n debygol bod canser wedi effeithio ar bob un ohonom ni ryw ffordd neu’i gilydd, ac rydym yn gwybod y loes calon y gall diagnosis ei achosi. I newid canser, mae’r ateb mewn ymchwil ac, yma yn Ymchwil Canser Cymru, ymchwil yw popeth – mae yn ein DNA. Trwy godi arian i ni, gallwch greu gobaith i gleifion canser heddiw, a thrawsnewid canlyniadau i gleifion yfory.
O werthu cacennau i nosweithiau cwis, eillio’ch pen neu gael parti caraoci, does dim taw ar yr hwyl y gallwch ei chael wrth godi arian. Beth bynnag y byddwch chi’n penderfynu ei wneud, rydym ni yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd!
Rhannwch eich cynlluniau gyda ni
Rhowch wybod i ni am eich gweithgaredd – rydym ni yma i helpu!
Dr Ramsay McFarlane
Prifysgol Bangor
“Trwy ymdrech gyfunol tîm y bydd canserau’n cael eu curo a’u rheoli. Chi, y bobl sy’n codi arian, yw aelodau pwysicaf y tîm sy’n ymladd canser. Heb eich gwaith caled chi, ni fyddai ymchwil i ganser.”