Symud at y prif gynnwys

Pecyn Ewyllys rhad ac am ddim

Pan fyddwch chi’n dewis cefnogi Ymchwil Canser Cymru, rydych chi’n dewis helpu gwneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn bod canser yn glefyd sy’n bygwth bywyd – diolch yn fawr iawn.

Fel elusen annibynnol sy'n gweithredu ledled Cymru, ni dderbyniwn unrhyw gyllid gan y llywodraeth ac rydym yn dibynnu ar haelioni ein cefnogwyr i ariannu ymchwil o'r radd flaenaf yma yng Nghymru. Sut bynnag y penderfynwch ein cefnogi, rydym wir yn gwerthfawrogi eich ymrwymiad. Yn gyfnewid, rydym am wneud ein hymrwymiad ein hunain i chi.

Rydym yn addo

  • Bod yn glir, yn onest, ac yn agored
  • Byddwn bob amser yn cael ein harwain gan ein gweledigaeth o Gymru unedig yn erbyn canser drwy ymchwil o’r radd flaenaf, a’n cenhadaeth i sicrhau nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel clefyd sy’n bygwth bywyd.
  • Byddwn yn glir am bwy ydym ni a’r hyn a wnawn. Rydym yn falch o fod yn elusen sy’n codi ac yn gwario arian yng Nghymru i helpu pobl yr effeithiwyd arnynt gan ganser a’u hanwyliaid.
  • Byddwn yn dweud wrthych am y gwahaniaeth mae eich cefnogaeth wedi’i wneud ac yn gallu ei wneud, ac yn onest am yr heriau rydym yn eu hwynebu.

Bod yn barchus

  • Byddwn yn parchu eich hawliau a’ch preifatrwydd. Mae eich manylion yn ddiogel gyda ni, ac ni fyddwn byth yn eu gwerthu i drydydd parti. Darllenwch ein polisi preifatrwydd llawn.
  • Byddwn yn defnyddio eich manylion yn unig yn y ffordd rydych wedi cytuno iddi a’n gwneud hi’n hawdd i chi newid sut rydym yn cyfathrebu gyda chi.
  • Rydych chi mewn rheolaeth a gallwch ddewis sut rydym yn cysylltu â chi - neu roi’r gorau i gyfathrebu’n gyfan gwbl—drwy ffonio 029 2185 5050 neu e-bostio contact-us@cancerresearchwales.org.uk.
  • Byddwn yn rhoi cyfle i chi ein cefnogi mewn ffordd sy’n gweithio i chi, gan barchu a bod yn sensitif i’ch amgylchiadau bob amser.
  • Ni fyddwn yn rhoi pwysau arnoch i roi mwy neu’n amlach. Os penderfynwch beidio â rhoi neu roi’r gorau i’n cefnogi, byddwn yn parchu eich penderfyniad.

Bod yn atebol ac yn gyfrifol

  • Byddwn yn defnyddio rhoddion yn ddoeth ac yn ofalus i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf ar bobl yr effeithiwyd arnynt gan ganser yng Nghymru.
  • Byddwn yn dryloyw am ein costau codi arian ac yn sicrhau bod ein hadroddiadau blynyddol yn hawdd i’w cyrchu. Byddwn yn gwrando ac yn dysgu, gan ymateb i unrhyw gwestiynau yn gyflym ac yn onest.
  • Os byddwn yn gwneud rhywbeth o’i le, rhowch wybod i ni - rydych chi’n bwysig i ni, ac rydym yn gwerthfawrogi clywed gan ein cefnogwyr.


Darllenwch ein Polisi Pryderon a Chwynion

  • Rydym wedi ymrwymo i safonau uchel ac yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau codi arian a diogelu data ar draws ein gweithgareddau codi arian.
  • Rydym wedi’n cofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian ac yn arddangos eu logo ar ein deunyddiau i ddangos ein hymrwymiad i arferion gorau.