Cyfrannu rhodd dros y ffôn neu drwy’r post
Mae eich cefnogaeth yn rhoi gobaith am ddyfodol gwell i bobl ledled Cymru. Mae ein holl gyllid ymchwil canser yn cael ei wario yma ar ariannu ymchwil hollbwysig yng Nghymru – gan ganiatáu i arloesedd go iawn ddechrau’n agos i gartref. Diolch yn fawr.
Dros y ffôn
Ffoniwch ni ar 029 2185 5050 a chyfrannwch rodd gyda’ch cerdyn debyd neu gredyd. Rydyn ni yma i helpu o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm.
Trwy’r post
Os hoffech dalu â siec, dylech ei gwneud yn daladwy i ‘Cancer Research Wales’ a’i hanfon i’r cyfeiriad isod. Cofiwch gynnwys nodyn gyda’ch siec sy’n rhoi eich manylion, fel y gallwn ysgrifennu atoch a diolch i chi am eich rhodd garedig. Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post, os gwelwch yn dda.
Cancer Research Wales
22 Neptune Court
Vanguard Way
Cardiff
CF24 5PJ
Os hoffech sefydlu Debyd Uniongyrchol i gefnogi Ymchwil Canser Cymru gyda rhodd fisol, byddem yn ddiolchgar iawn. Gallwch wneud hynny ar-lein yma, neu lawrlwytho ffurflen isod i’w hargraffu a’i llenwi. Dychwelwch y ffurflen i’r cyfeiriad uchod.
Trwy drosglwyddiad banc
Fel arall, gallwch drosglwyddo’ch rhodd yn syth i gyfrif banc Ymchwil Canser Cymru yn gyflym ac yn rhwydd. Ffoniwch ni ar 029 2185 5050 ac fe allwn roi ein manylion banc i chi.