Symud at y prif gynnwys

Partneriaethau Corfforaethol

Yn Ymchwil Canser Cymru, rydym ni’n byw a bod ymchwil – mae’n rhan o’n DNA. Mae ein gwaith ni ar gyfer pob canser, i bawb, ac i Gymru gyfan. Ond ni fyddem yn gallu gwneud beth rydym ni’n ei wneud heb bobl hael yn ein cefnogi ni. 

Mae ein partneriaethau â busnesau ar draws Cymru wedi chwarae rhan sylweddol mewn ariannu ein hymchwil dros y blynyddoedd ac rydym ni mor ddiolchgar am y cyfraniadau arwyddocaol a wnaethant

Allai ddim bod yn haws i’ch busnes fod yn gysylltiedig ag Ymchwil Canser Cymru. Mae sawl ffordd amrywiol y gallwch chi gefnogi ein gwaith, o godi arian gan staff i roi canran o werthiannau cynnyrch neu wasanaeth rydych chi’n ei gynnig. Sut bynnag byddwch chi’n dewis i’ch busnes fod yn gysylltiedig â’n gwaith, byddwn ni yma i'ch cefnogi bob cam o’r ffordd. Mae gennym dîm pwrpasol a fydd yn sicrhau bod y bartneriaeth yn cyrraedd ei photensial, gan gynnig cyfleoedd i chi am PR gwych a gwell morâl ymhlith eich tîm.

Dyma rai syniadau am sut gallai eich gweithle gymryd rhan:

  • P’un a ydych chi’n gweithio mewn swyddfa, ffatri neu yn yr awyr agored, perswadiwch eich cydweithwyr i gofrestru am ddigwyddiad codi arian. Mae gwisg ffansi, gwerthu cacennau a heriau camau i gyd yn ffyrdd gwych o gael hwyl a chodi arian
  • Beth am gynnig tîm i un o’n digwyddiadau? Mae gennym ni deithiau cerdded, rasys a skydives, i enwi ond rhai! Mynnwch gipolwg ar ein rhestr lawn o ddigwyddiadau a allai fod o ddiddordeb i’ch staff
  • Gwirfoddolwch eich amser a’ch arbenigedd! Mae gennym rwydwaith o siopau ar draws de Cymru sydd bob amser angen help llaw i ddod o hyd i eitemau ail-law, a’u prosesu, er mwyn eu gwerthu. Allai eich tîm wirfoddoli amser i helpu codi mwy o arian trwy ein siopau neu mewn digwyddiad her? Cysylltwch i ddysgu rhagor!
  • Dewch yn noddwr corfforaethol. Rydym ni’n cynnal llawer o ddigwyddiadau a allai ymestyn cyrhaeddiad eich brand o fewn cymunedau Cymru. Siaradwch â ni am sut gallai noddi digwyddiad eich helpu i gyflawni eich amcanion Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, gan gael effaith fawr ar ein gwaith ymchwil

Mae cynifer o gyfleoedd i’ch busnes neu weithle wneud gwahaniaeth i bobl sy’n byw gyda chanser ar draws Cymru. Diolch yn fawr i chi am ein hystyried ni. Cysylltwch â ni ar 029 2185 5050 neu contact-us@cancerresearchwales.org.uk os hoffech glywed rhagor neu drafod eich syniadau.

 diddordeb mewn dod yn bartner corfforaethol? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Keeping in touch

Mae eich cefnogaeth yn bwysig, a byddem wrth ein bodd yn cadw mewn cysylltiad â chi am ein hymchwil a ffyrdd eraill y gallwch helpu i wneud gwahaniaeth i bobl y mae canser yn effeithio arnynt yng Nghymru, gan gynnwys ymgyrchu, codi arian a gwirfoddoli. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad drwy'r post bob hyn a hyn oni bai eich bod yn gofyn i ni beidio â gwneud hynny drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Rhowch wybod i ni os ydych hefyd yn hapus i glywed gennym drwy e-bost a dros y ffôn:

Gallwch optio allan ar unrhyw adeg, felly os byddwch yn newid eich meddwl am glywed gennym ni, neu sut rydym yn cysylltu â chi, ffoniwch ni ar 02921 855050 neu anfonwch e-bost atom yn contact-us@cancerresearchwales.org.uk

Rydym yn addo cadw'ch manylion yn ddiogel ac ni fyddwn byth yn eu gwerthu i unrhyw drydydd parti. Gall eich gwybodaeth gael ei phrosesu ar ein rhan gan gyflenwyr a ddewiswyd yn ofalus. Gweler ein Polisi Preifatrwydd i gael gwybod mwy am eich hawliau, a sut rydym yn rheoli, defnyddio a gofalu am eich gwybodaeth bersonol.