Bydd Rheolwr y Siop yn gyfrifol am reoli’r siop o ddydd i ddydd, gan weithio i sicrhau’r incwm mwyaf i’r elusen. Bydd deiliad y swydd yn llawn hunangymhelliant, bydd yn angerddol am ddarparu safonau uchel o wasanaeth i gwsmeriaid a bydd yn greadigol, gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol.
A chithau’n cynrychioli’r elusen yn y gymuned, byddwch yn recriwtio, yn symbylu ac yn datblygu gwirfoddolwyr i hyrwyddo gwaith Ymchwil Canser Cymru.