Symud at y prif gynnwys

Dirprwy Reolwr - Caernarfon

Bydd y Dirprwy Reolwr yn cynorthwyo Rheolwr y Siop â rhedeg ein siopau elusennol o ddydd i ddydd ac yn helpu i feithrin a gweithio gyda thîm o wirfoddolwyr i gefnogi a chynorthwyo â phob dyletswydd. Bydd y Dirprwy Reolwr hefyd yn gweithredu fel Rheolwr Siop yn absenoldeb y rheolwr. Bydd gan ddeiliad y swydd amrywiaeth eang o gyfrifoldebau a fydd yn gofyn am gryn flaengaredd a hyblygrwydd, gan sicrhau eu bod yn gweithio’n broffesiynol ac yn amserol bob amser.