Symud at y prif gynnwys

Gyrfaoedd

Mae ein staff wedi ymrwymo i’n cenhadaeth i uno Cymru yn erbyn canser drwy ymchwil o’r radd flaenaf. Ymunwch â’n tîm a gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol a rhoi gobaith o ddyfodol gwell i ffrindiau, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.

Swyddi gwag presennol

Rheolwr Siop - Caernarfon

Bydd Rheolwr y Siop yn gyfrifol am reoli’r siop o ddydd i ddydd, gan weithio i sicrhau’r incwm mwyaf i’r elusen. Bydd deiliad y swydd yn llawn hunangymhelliant, bydd yn angerddol am ddarparu safonau uchel o wasanaeth i gwsmeriaid a bydd yn greadigol, gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol. A chithau’n cynrychioli’r elusen yn y gymuned, byddwch yn recriwtio, yn symbylu ac yn datblygu gwirfoddolwyr i hyrwyddo gwaith Ymchwil Canser Cymru.
Darganfyddwch fwy

Rheolwr ar Ddyletswydd - Caernarfon

Mae’r rôl hon yn gyfle cyffrous i ddod yn rhan o dîm rheoli siop, trwy gymryd rhan mewn rheoli tîm y siop yn absenoldeb Rheolwr y Siop / y Dirprwy Reolwr. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am wasanaeth gwych i gwsmeriaid, gan weithio gyda’n tîm arbennig o wirfoddolwyr. Fel rhan o’r rôl hon, dewch yn Ddeiliad Allwedd a byddwch yn cael y rhaglen sefydlu lawn i reolwyr. Gall y rôl hon arwain at ddyrchafiad pellach o fewn Ymchwil Canser Cymru.
Darganfyddwch fwy

Dirprwy Reolwr - Caernarfon

Bydd y Dirprwy Reolwr yn cynorthwyo Rheolwr y Siop â rhedeg ein siopau elusennol o ddydd i ddydd ac yn helpu i feithrin a gweithio gyda thîm o wirfoddolwyr i gefnogi a chynorthwyo â phob dyletswydd. Bydd y Dirprwy Reolwr hefyd yn gweithredu fel Rheolwr Siop yn absenoldeb y rheolwr. Bydd gan ddeiliad y swydd amrywiaeth eang o gyfrifoldebau a fydd yn gofyn am gryn flaengaredd a hyblygrwydd, gan sicrhau eu bod yn gweithio’n broffesiynol ac yn amserol bob amser.
Darganfyddwch fwy

Cwestiynau?

Rydym yn hapus i helpu

a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.

Neu ffoniwch ni ar 02921 855050

Rydyn ni yma i helpu o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am - 5pm