Nod Menter Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd yw sefydlu Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes ymchwil tiwmorau'r ymennydd.
Drwy ddod â gwyddonwyr, clinigwyr a niwrolawfeddygon ynghyd o bob rhan o Gymru, byddwn yn darparu llwyfan i yrru darganfod ac arloesi yn ei flaen.
Bydd yr ymchwil yn rhoi gwell dealltwriaeth i wyddonwyr o'r clefyd, yn datblygu profion diagnostig mwy cywir ac yn cynhyrchu triniaethau achub bywyd newydd ac ymestyn bywyd i gleifion, yn ogystal â deall y ffordd orau o gefnogi pobl sy'n byw gyda thiwmorau'r ymennydd.
Ein bwriad yw creu dyfodol lle mae gwelliannau nid yn unig yng nghyfraddau goroesi tiwmorau'r ymennydd, ond hefyd o ran cefnogaeth ac ansawdd bywyd cleifion tiwmor yr ymennydd ym mhobman.
Pam mae angen Y Fenter Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd?
Gwelwyd cynnydd o 39% yn nifer yr achosion o diwmor sylfaenol ar yr ymennydd yn y DU ers y 1990au, gyda dros 600 o'r rhain yn digwydd yng Nghymru bob blwyddyn.
Yn wahanol i lawer o fathau eraill o ganser, nid yw cyfraddau goroesi hirdymor tiwmorau'r ymennydd wedi dangos fawr ddim gwelliant dros y 30 mlynedd diwethaf, gyda llai na 15% o gleifion yn goroesi 10 mlynedd neu fwy ar hyn o bryd.
Er bod tiwmorau ymennydd cynradd plentyndod yn cael canlyniadau gwell, mae effaith niweidiol triniaethau cyfredol yn golygu bod y plant hyn yn aml yn cael trafferth byw bywydau cwbl annibynnol fel oedolion.
Yn anffodus, ychydig iawn o opsiynau triniaeth newydd sydd wedi'u cyflwyno yn ystod y degawdau diwethaf. Mae angen strategaethau triniaeth newydd a mwy caredig sydd nid yn unig yn gwella cyfraddau goroesi, ond yn bwysig hefyd yn gallu lleihau sgîl-effeithiau hirdymor a nam gwybyddol i sicrhau y gall cleifion fwynhau ansawdd bywyd da.