Symud at y prif gynnwys

Rob Lloyd

Mae Rob Lloyd, sy’n byw yn Llandudno, yn entrepreneur a Phrif Swyddog Gweithredol Grŵp Bearmont. Mae’n fasnachwr eiddo a buddsoddwr uchel ei barch sydd â gyrfa hir ym maes datblygu a rheoli eiddo. Gweithiodd i Wilsons Commercial, GVA Grimley, National Car Parks a Grŵp David McLean cyn ffurfio Eatonfield Holdings ym 1997 a chyhoeddi cyfrannau’r cwmni’n llwyddiannus ar Gyfnewidfa Stoc Llundain yn 2006. 

Ffurfiodd Bearmont yn 2017 ac mae’r grŵp wedi ehangu’n gyflym ers hynny. Bellach, mae ganddo fuddiannau busnes manwerthu, masnachol, swyddfeydd, tai gofal, tir strategol ac eiddo diwydiannol. 

Yn 2022, enillodd Rob y wobr Points of Light gan y Prif Weinidog Boris Johnson am ei wasanaeth i godi arian. Yn ogystal, penodwyd Rob yn llysgennad dros Gymru am ddwy flynedd i greu dyfodol economaidd gwell i Ogledd Cymru trwy fenter Llunio’r Dyfodol Llywodraeth Cymru.