Symud at y prif gynnwys

Rhian Whiting

Mae Rhian Whiting yn gyfreithiwr gofal plant ac yn Gyfarwyddwr cwmni Robertsons Legal Limited o Gaerdydd. Mae Rhian yn dod o Gaerdydd ac astudiodd y gyfraith yn Aberystwyth cyn dychwelyd i'w dinas enedigol i hyfforddi ac ymarfer wedi hynny. Mae ganddi 25 mlynedd o brofiad ar ôl cymhwyso, mae'n aelod o Banel Plant Cymdeithas y Gyfraith (cynrychiolydd plant) ac mae ganddi Hawliau Eiriolaeth Llysoedd Uwch. 

Mae hi'n aelod o bwyllgor y sefydliad cyfraith teulu South Wales Resolution. Yn ei hamser hamdden, mae Rhian yn cadw'n brysur gyda'i theulu, ei ffrindiau, yn cerdded ei chi, yn ymarfer corff ac mewn eiliadau tawelach yn mwynhau darllen a cherddoriaeth. Mae Rhian wedi bod yn Ymddiriedolwr Ymchwil Canser Cymru ers Ionawr 2018. Mae Rhian wedi cymryd rhan yn rhai o ddigwyddiadau codi arian yr elusen gan gynnwys Hanner Marathon Caerdydd, Yr Her Tri Chopa a Kilimanjaro ac mae hi'n argymell yn frwd i unrhyw un ymgymryd â her er mwyn codi arian i'r elusen.