Symud at y prif gynnwys

Yr Athro Chris Fegan

Ymddeolodd yr Athro Fegan fel haematolegydd clinigol yn ddiweddar ac mae yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caerdydd. Ef oedd y cymrawd ymchwil trawsblaniadau bôn-gelloedd haematopoietig cyntaf yng Nghymru sydd hefyd lle bu'n ymgymryd â'r rhan fwyaf o'i hyfforddiant haematoleg arbenigol. Roedd ei swydd haematoleg ymgynghorol gyntaf yn Birmingham ond dychwelodd i Gaerdydd yn 2005 a fe’i dyfarnwyd yn athro yn 2012. Mae'r Athro Fegan hefyd yn gyn Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Ysgol Feddygaeth Caerdydd ac yn gyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Meddygol Telonostix. 

Bu'n aelod o Fwrdd Gweithredol Cymdeithas Prydain am wyth mlynedd gan gynnwys chwe mlynedd fel trysorydd. Mae'n cadeirio Pwyllgor Gwyddonol Ymchwil Canser Cymru. Prif ddiddordebau ymchwil Chris oedd lewcemia lymffocytig cronig, marcwyr prognostig, datblygiadau cyffuriau newydd a threialon clinigol gan gynnwys yn gyntaf mewn astudiaethau dynol. Mae gan Chris dros 200 o gyhoeddiadau ymchwil.