Philippa Tuttiett
Philippa yw wyneb rygbi menywod Cymru ac ers iddi roi’r gorau i chwarae, mae wedi dod yn ffefryn ymhlith cefnogwyr yn y blwch sylwebu ac yn un o’r pynditiaid benywaidd uchaf ei pharch yn y byd.
Cyn ymddeol o rygbi rhyngwladol yn 2018, cynrychiolodd yr asgellwr Gymru mewn saith Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ac yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2014 yn Ffrainc. Roedd hefyd yn gapten Gleision Caerdydd.
Yn sgil ei gyrfa hir, hi yw un o’r chwaraewyr rygbi saith bob ochr rhyngwladol â’r nifer fwyaf o gapiau dros Gymru, gan gynrychioli ei gwlad yng Nghyfres Rygbi Saith Bob Ochr y Byd ac yna gwireddu ei breuddwyd o arwain Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018.
Ar ôl rhoi’r gorau i chwarae rygbi, mae ei brwdfrydedd am y gamp a’i harbenigedd ynddi’n parhau yn y cyfryngau proffesiynol.
Hi oedd un o’r cyn-chwaraewyr benywaidd cyntaf i sylwebu ar rygbi rhyngwladol dynion, ac mae bellach yn gweithio’n rheolaidd i’r BBC, Premier Sports, Sky Sports, ITV a’r BBC ar gystadlaethau Cwpan Rygbi’r Byd, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, Rygbi’r Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig.