Nigel Walker
Un o feibion Caerdydd yw Nigel Walker. Mae’n gyn athletwr a chwaraewr rygbi rhyngwladol a gynrychiolodd Brydain Fawr yng Ngemau Olympaidd 1984 ac a gynrychiolodd Gymru ar 17 achlysur ar y cae rygbi. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig Mary ac mae ganddo 3 merch.
Dechreuodd ei yrfa waith yn y Swyddfa Gymreig lle y treuliodd 11 mlynedd cyn symud i Gyngor Chwaraeon Cymru fel Swyddog Datblygu ym 1993. Bu’n chwaraewr rygbi proffesiynol a darlledwr am gyfnod byr cyn symud i BBC Cymru Wales fel ei Bennaeth Chwaraeon yn 2001. Ymgymerodd â rôl Pennaeth Newid a Chyfathrebu Mewnol yn ystod ei gyfnod yn BBC Wales hefyd.
Ar ôl gadael BBC Cymru Wales yn 2010, bu’n Gyfarwyddwr Cenedlaethol Sefydliad Chwaraeon Lloegr am 11 mlynedd cyn ymgymryd â’r rôl o Gyfarwyddwr Gweithredol Rygbi gydag Undeb Rygbi Cymru.
Rhoddwyd OBE iddo am wasanaethau i chwaraeon yn 2019.
