Mari Grug
Mae Mari Grug yn gyflwynydd teledu a radio medrus.
Dechreuodd ei gyrfa fel cyflwynydd y rhaglen ‘Planed Plant’ cyn cyflwyno rhai o ddigwyddiadau diwylliannol mwyaf Cymru, fel yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, a’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, a bu’n rhan o’r tîm cyflwyno’r tywydd am 6 blynedd.
Yn 2013, penderfynodd ei bod yn bryd dychwelyd i orllewin Cymru i fagu teulu ac ers hynny mae ei gwaith wedi bod yn Llanelli yn bennaf fel rhan o dîm cyflwyno’r rhaglenni dyddiol poblogaidd ‘Heno’ a ‘Prynhawn Da’. Mae hi hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar Radio Cymru gan gyflwyno Bore Cothi, a’i phrosiect diweddaraf yw’r unig bodlediad Cymraeg sy’n trafod canser, sef ‘1 mewn 2’.
Ym mis Gorffennaf 2023, datgelodd y bu’n cael triniaeth ar gyfer canser y fron metastatig. Fel mam i dri o blant, mae bywyd yn brysur ond yn llawer o hwyl.