Lorraine Boyd
Lorraine Boyd yw Pennaeth Manwerthu Ymchwil Canser Cymru. Ers ymuno â'r elusen bron i dair blynedd yn ôl, mae Lorraine wedi ehangu ein ystad manwerthu a'i chymryd o dair siop i 14, gyda phedair wedi agor yn 2024 yn unig.
Cyn hynny, bu'n gweithio fel rheolwr cyffredinol ar gyfer Grŵp Arcadia am dros 25 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw symudodd ar draws y busnes a phrofi amrywiaeth o rolau a swyddogaethau, gan gynnwys agor ac ail-osod siopau, datrys problemau a hyfforddi pobl ar bob lefel o reoli.
Mae Lorraine yn brofiadol ym mhob agwedd o waith uwch reoli ac mae ganddi angerdd a ffocws ar gyfer mentrau cynllunio a hyfforddi olyniaeth. Yn arweinydd angerddol sy'n hyderus wrth reoli newid, mae Lorraine eisiau codi ymwybyddiaeth o Ymchwil Canser Cymru ac mae'n falch iawn o'r hyn y mae'r elusen yn sefyll amdano.
Yn aelod gweithgar o'i chymuned leol, yn ystod y pandemig, gwirfoddolodd Lorraine i ddosbarthu parseli bwyd i'r rhai mewn angen.