Kate Mann
Kate Mann yw Cyfarwyddwr Cyswllt Cowshed Communication yng Nghaerdydd. Mae Kate yn goruchwylio pob ymgyrch gyda gonestrwydd a sylw manwl i fanylion. Mae ei chysylltiad â chleientiaid heb ei ail, gyda'i ardull empathig, diplomyddol a gonest. Cafodd Kate ei hysbrydoli gan ei mam a'i ffrind gorau Carys i ddod yn aelod o fwrdd Ymchwil Canser Cymru i ymdrechu i ddarparu gwell canlyniadau i gleifion canser yng Nghymru a thu hwnt. Os oes angen i chi ysbrydoli pobl i weithredu, boed hynny'n godi miloedd o bunnoedd mewn diwrnod, annog cenedl o rieni i hawlio eu pryd ysgol am ddim neu gael digon o lofnodion ar ddeiseb i newid cyfraith, bydd meddwl strategol Kate yn galluogi'ch sefydliad i gyflawni hynny a mwy.