Jemma McLean
Mae Jemma MacLean yn Gyfarwyddwr yn Insight HRC ac ymunodd â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ym mis Chwefror 2023. Mae hi'n weithiwr proffesiynol AD profiadol sydd wedi gweithio gydag uwch dimau yn y sectorau preifat, cyhoeddus a dielw ac mae'n angerddol dros greu'r amodau sy'n galluogi unigolion a thimau i ffynnu. Mae gan Jemma ymagwedd wybodus i’w gwaith ac mae yn canolbwyntio ar bobl, gyda phwyslais ar ddatblygu ymddygiadau arweinyddiaeth gwirioneddol wych er mwyn arwain at berfformiad tîm gwell.
Mae Jemma wir yn credu yng ngrym adeiladu cysylltiadau cryf. Mae'n mwynhau dod â phobl ynghyd i rannu a dysgu oddi wrth ei gilydd ac mae'n cael gwefr go iawn o weld y gwerth a'r cynnydd y mae perthnasoedd cydweithredol yn ei gynnig i effeithiolrwydd tîm a sefydliadol. Mae ganddi ddisgwyliadau uchel ohoni hi ei hun ac eraill ac mae'n gyrru pobl i gyflawni eu gorau glas.