Symud at y prif gynnwys

Jamie Baulch

Mae Jamie Baulch yn adnabyddus nid yn unig am ei lwyddiant ar y trac, ond hefyd am ei fentrau ym myd busnes. Yn dilyn gyrfa ragorol fel enillydd medal arian Olympaidd a Phencampwr y Byd mewn gwibio, trodd Jamie ei sylw at entrepreneuriaeth, gan ffurfio BidAid a uWin. 

Mae’r platfformau arloesol hyn yn arbenigo mewn codi arian i elusennau, gan ddefnyddio technoleg i wella’r profiad arwerthiant mud a chynyddu cyfraniadau i achosion pwysig. Trwy gysylltiadau cryf â sêr a dylanwadwyr â phroffil uchel, ynghyd ag agwedd ddyngarol, mae Jamie wedi sicrhau statws allweddol i BidAid a uWin yn y sector elusennau, gan gefnogi digwyddiadau a sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt.