Dr Steve Man
Daeth Steve i weithio ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl PhD yn Llundain (Coleg Imperial) ac ymchwil ôl-ddoethurol yn America (Prifysgol Virginia). Mae'n Ddarllenydd (Athro Cyswllt) gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes addysg uwch; fel ymchwilydd mewn Imiwnoleg Canser (HPV, Lewcemia, a Prostate), fel goruchwyliwr ar gyfer myfyrwyr PhD ac fel athro i fyfyrwyr meddygol.
Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn ymgysylltu â'r gymuned, yn enwedig wrth gyfathrebu gwyddoniaeth i blant ac oedolion. Mae Steve wedi bod yn gysylltiedig â Ymchwil Canser Cymru ers dros 18 mlynedd, fel deilydd grant ymchwil, aelod o'r Pwyllgor Gwyddonol ac yn fwy diweddar fel Ymddiriedolwr. Y tu allan i'r gwaith, mae'n ceisio cadw'n heini, ac yn mwynhau coginio, teithio a ffotograffiaeth.