Symud at y prif gynnwys

Dr Peter Henley

Dr Peter Henley yw Rheolwr Cyllid Ymchwil Ymchwil Cymru, ar ôl ymuno â'r elusen ym mis Mai 2021. Mae’n aelod o'r Adran Wyddoniaeth ac yn ei rôl mae’n cefnogi rheolaeth ein mentrau ariannu grantiau ac yn goruchwylio prosiectau ymchwil rydym yn eu hariannu yn barod.

Mae Peter hefyd yn gyfrifol am gyfleu effaith gwaith Ymchwil Canser Cymru i gynulleidfaoedd proffesiynol a chyhoeddus, trwy gymysgedd o ysgrifennu erthyglau, siarad cyhoeddus a digwyddiadau cyhoeddus.

Cyn ymuno ag Ymchwil Canser Cymru, cwblhaodd Peter PhD mewn imiwnoleg lewcemia ym Mhrifysgol Caerdydd a chyn hynny roedd yn Dechnegydd Ymchwil ym Mhrifysgol Birmingham.

Yn ei amser hamdden, mae Peter yn chwaraewr pêl-droed brwd ac yn ddeiliad tocyn tymor yn Ninas Caerdydd ac mae'r rhan fwyaf o benwythnosau i'w gweld yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn cefnogi’r Adar Gleision. Mae diddordebau Peter hefyd yn cynnwys sioeau comedi stand-yp, coginio a bwyta allan ac mae'n deithiwr profiadol.