Symud at y prif gynnwys

Chrissie Nicholls

Mae Chrissie wedi bod yn ymddiriedolwr Ymchwil Canser Cymru ers 2020. Mae hi wedi gweithio yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ers dros 20 mlynedd fel uwch reolwr prosiect profiadol i nifer o elusennau cenedlaethol a rhyngwladol a llywodraeth leol. Ers 2016 mae wedi bod yn gweithio fel ymgynghorydd annibynnol, gan ddarparu cymorth datblygu busnes, llywodraethu a meithrin gallu i'r trydydd sector, a rhaglenni ymchwil a gwerthuso ar gyfer awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr. 

Mae hi'n arbenigo mewn trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a chydraddoldeb menywod. Mae Chrissie yn is-gadeirydd Pwyllgor Safonau a Moeseg Cyngor Caerdydd, y mae hi wedi bod yn aelod annibynnol ohono ers 2019. Mae Chrissie yn byw ym Mro Morgannwg gyda'i gŵr a'i dau o blant, lle mae hi hefyd yn rhedeg ei busnes celf gwydr 'Glass at the Spinney'.