Symud at y prif gynnwys

Angela Jay

Mae Angela Jay, a anwyd yn Abertawe, yn bersonoliaeth radio uchel ei pharch a hoff gan lawer sydd wedi bod yn deffro Cymru am flynyddoedd lawer ers ei chyfnod ar raglen frecwast Real Radio yn Ne Cymru (sef Heart bellach) a Heart y Gogledd-orllewin a Chymru yn Wrecsam. Ar hyn o bryd, mae Angela yn cyflwyno’r Sioe Frecwast ar Nation Radio Wales a’r rhaglen canol y bore ar Dragon Radio.

Dechreuodd Angela ei gyrfa ddarlledu yn 16 oed. Hi oedd y cyflwynydd benywaidd ieuengaf yn y Deyrnas Unedig ar ei gorsaf radio leol – The Wave.

Yn ystod ei gyrfa, mae hi hefyd wedi mwynhau cyflwyno Top of the Pops ar gyfer BBC World Service a Summer Saturdays ar gyfer BBC Radio Wales ynghyd â’r All 80s Weekender.

A hithau’n gyflwynydd digwyddiadau profiadol, mae Angela wedi cyflwyno Gwobrau Balchder Cymru eleni, Gwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024 a mwy.

Mae Angela yn edrych ymlaen at fod yn llysgennad ar gyfer Ymchwil Canser Cymru.