Pwy ydym ni
Ers 1966, mae ein hymchwil arloesol wedi bod yn achub bywydau yma yng Nghymru. Mae bron i 60 mlynedd o ymchwil wedi cyfrannu at welliannau enfawr mewn gwasanaethau canser a deilliannau gwell i bobl ddirifedi. Rydym yn gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn bod canser yn glefyd sy’n rhoi bywyd yn y fantol. Gwnawn hyn trwy gefnogi’r ymchwilwyr a’r clinigwyr canser gorau i wneud darganfyddiadau a fydd yn trawsnewid bywydau, gan fod ymchwil yn ein DNA.