Mae pawb yn aelod o #CymruUnited
Ymunwch â #CymruUnited - tîm o gefnogwyr, gwirfoddolwyr, codwyr arian ac ymchwilwyr, i gyd yn helpu i ddarparu gobaith i bobl y mae canser yn effeithio arnynt.
Cymru United yn Erbyn Canser – Un tîm. Un genedl. Un gôl.


Ein gweledigaeth yw Cymru sydd wedi’i huno yn erbyn canser drwy ymchwil o safon fyd-eang. Gyda'n gilydd byddwn yn lleihau effaith canser ac yn gwella cyfraddau goroesi annerbyniol. Byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel clefyd sy'n peryglu bywyd. A byddwn yn gwneud hyn drwy gefnogi'r ymchwilwyr canser a'r clinigwyr gorau i wneud darganfyddiadau a fydd yn trawsnewid ein bywydau.