Cenhadaeth 60
Rydym yn galw ar 60 o fusnesau Cymru i ddod yn bartneriaid gyda ni trwy gydol blwyddyn ein pen-blwydd yn 60 oed.
Ein gweledigaeth yw Cymru sydd wedi’i huno yn erbyn canser drwy ymchwil o safon fyd-eang. Gyda'n gilydd byddwn yn lleihau effaith canser ac yn gwella cyfraddau goroesi annerbyniol. Byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel clefyd sy'n peryglu bywyd. A byddwn yn gwneud hyn drwy gefnogi'r ymchwilwyr canser a'r clinigwyr gorau i wneud darganfyddiadau a fydd yn trawsnewid ein bywydau.